Prosiect Peilot Ecosystem Wydn Gogledd Cymru (NWREPP)
Mae’r prosiect cydweithredol, uchelgeisiol hwn yn cwmpasu Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam er mwyn hwyluso Gogledd Cymru fwy gwydn, gan godi ymwybyddiaeth a mynd i’r afael â Rhywogaethau Estron Ymledol fel Ffromlys Chwarennog drwy ddigwyddiadau, pori cadwraeth, sganio gorwel eDNA, hyrwyddo bioddiogelwch a chefnogi Grwpiau Gweithredu Lleol a Chlybiau Pysgota.