Search
Mae’r DU wedi colli hyd at 90% o’i dolydd morwellt yn y ganrif ddiwethaf, sydd wedi cael canlyniadau negyddol i iechyd a gwydnwch ein systemau arfordirol. Yn 2019, ffurfiodd Prifysgol Abertawe, yr elusen Project Seagrass a WWF-UK gydweithrediad i ddechrau adfer rhywfaint o'r hyn yr ydym wedi'i golli. Ar yr un pryd, dros y chwe blynedd diwethaf mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn arwain treialon ledled Cymru i ddatblygu dulliau priodol ar gyfer adfer morwellt. Yma yn Ngogledd Cymru, rydym wedi ymuno gyda’r partneriaid i gychwyn archwilio sut allwn ddod a’r prosiect cyffrous yma i Ogledd Cymru. Rydym wedi sicrhau cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gyflawni rhaglen waith adfer arfaethedig sy’n dderbyniol yn gymdeithasol ac yn ecolegol gadarn ac rydym ni eisiau i chi gymryd rhan. Wrth gymryd rhan fyddwch chi yn helpu ni i adfer morwellt yng Ngogledd Cymru.
Hyrwyddwyr Achub Cefnfor
Ein gwaith gyda darpar gadwraethwyr morol ifanc Ynys Môn
Blodau gwyllt i achub y dydd
Fe allwn ni i gyd gynnwys blodau gwyllt yn ein gerddi – a mwynhau’r bwrlwm ddaw gyda nhw! Dyma Anna Williams i rannu rhywfaint o awgrymiadau …
Crwban môr cefn-lledr
Yn gawr ym myd y crwbanod môr, mae’r crwban môr cefn-lledr yn crwydro’r cefnfor gan chwilio am slefrod môr. Yn wahanol i grwbanod môr eraill, mae’r crwban môr cefn-lledr yn hoffi’r oerni! Mae hyn…
Arch Bwerau Bywyd Gwyllt
Dydi bywyd gwyllt yn rhyfeddol? Mae Gogledd Cymru yn llawn byd natur sy’n defnyddio arch bwerau i anadlu, bwyta, yfed, nofio, hedfan, cuddio, achub y blaned a mynd ar wyliau hyd yn oed!
Rhewch derfyn ar y Llwybr Coch – Diweddariad Newyddion Ionawr 2021
Dyma ein diweddariad ar gyfer ein hymgyrch i helpu i achub Coed a Dolydd Leadbrook, Sir y Fflint. Mae'r prosiect priffyrdd 'Llwybr Coch' arfaethedig yn ffordd ddeuol 13km a fyddai…
Tirwedd Byw
Nid yw gwarchodfeydd natur ar eu pen eu hunain yn ddigon i achub ein bywyd gwyllt gwerthfawr rhag diflannu. I alluogi i fywyd gwyllt ffynnu ac ymledu, rhaid i ni greu mwy o ofod i fywyd gwyllt sy’n cael ei reoli’n well ac sy’n fwy cysylltiedig, gyda chyfleoedd i bobl fwynhau byd natur. Mae’r dull hwn o weithredu’n creu’r hyn rydyn ni’n ei alw’n Dirweddau Byw, sydd o fudd i bawb ac yn diogelu bywyd gwyllt.
Moroedd Byw
Moroedd Byw yw gweledigaeth Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar gyfer moroedd Cymru. Dysgwch bopeth am ein gwaith cadwraeth forol ac unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau yr ydym yn eu cynnal gan gynnwys snorclo, glanhau traethau ac archwilio pyllau glan môr. Mae llawer o wybodaeth am blanhigion ac anifeiliaid morol - o forwellt i siarcod! Dysgwch sut i ymuno a ni fel gwirfoddolwr cadwraeth forol neu ddod yn Wyddonydd Dinesydd trwy ein prosiect Shoresearch.