Donate

Amaethyddiaeth

Difrod lleol i gnwd o fetys siwgr bedwar metr oddi wrth lan afon

Ni chredir fod effaith yr afanc ar ffermio da byw, y prif ddefnydd a wneir o’r tir amaethyddol sy’n meddiannu’r gyfran fwyaf o unrhyw diriogaeth arfaethedig ar gyfer yr afanc yng Nghymru, yn debygol o greu problemau sylweddol o gwbl.   Nid yw afancod yn creu unrhyw fygythiad ffisegol ac ni chredir fod eu rôl fel cludwyr afiechydon yn un sylweddol iawn.

Gellir amharu ar gnydau glan afon, yn cynnwys india-corn a gwreiddgnydau, yn cynnwys betys siwgr.   Mae effeithiau o’r fath yn lleol fel rheol, gan fod afancod yn tueddu i fwydo o fewn 20 metr i lan afon fel arfer, a phur anaml yn crwydro ymhellach na 100 metr.

Gall nifer o opsiynau rheoli roi sylw i’r sefyllfa hon.   Mae ffensys mawr (gwifrau moch) a ffensys trydan foltedd isel safonol yn hynod effeithiol – gan eu defnyddio ochr yn ochr ag afonydd neu ar eu traws.   Mae gan afancod gof da a bydd ffens drydan a osodir am wythnos yn eu hatal rhag ceisio mynediad am hyd at 3 mis [Cyfeiriad: Halley D. a Bevanger K., Sefydliad Ymchwil Natur Norwy, 2005-21]

Ffensys trydan yn rhwystr effeithiol

Os oes angen, gellir dal afancod byw a’u hadleoli.

Yn gyffredinol, mae’r profiad o ailgyflwyno’r afanc ar dir mawr Ewrop yn awgrymu bod cost unrhyw effaith yn debygol o fod yn llawer llai na’r potensial am refeniw, yn uniongyrchol drwy gyfrwng twristiaeth natur ac yn anuniongyrchol drwy gyfrwng cydnabyddiaeth i wasanaethau amgylcheddol yn y dyfodol, a allai arwain at fwy o gefnogaeth amaeth-amgylcheddol.

Ceir afancod ledled Ewrop yn awr bron, wedi eu hailgyflwyno i 25 o wledydd – ac yn cynnwys ardaloedd o amaethu dwysedd uchel. Gyda strategaethau rheoli addas yn eu lle, nid yw’r ailgyflwyno yma wedi creu problem sylweddol.