Donate

FAQs

Ailgyflwyno

+ O’u hailgyflwyno, a allai afancod droi’n bla na ellid ei reoli?

Na allent, ni allent fod yn bla na ellid ei reoli, fel y wiwer lwyd neu’r gwningen er enghraifft.

Mae profiad Ewrop yn dangos bod y mesurau rheoli ac effaith yn eithaf syml. Mae afancod yn hawdd i’w dal yn nhrapiau byw Hancock neu gan ddefnyddio dulliau eraill ac mae’n hawdd iawn eu symud o ardal felly, os oes angen.

Mae afancod wedi’u cyfyngu i afonydd, nentydd a llynnoedd addas, gan aros fel rheol o fewn 20 metr i lan afon, a phrin byth yn crwydro ymhellach na 100 metr.   Nid ydynt yn hoffi croesi tir rhwng dyfroedd ac felly nid ydynt yn ymledu’n gyflym o ddalgylch i ddalgylch.

Ailgyflwynwyd yr afanc i 25 o wledydd ar dir mawr Ewrop eisoes.   Pe bai’r broses hon wedi bod yn broblem yn gyffredinol, a heb greu manteision sylweddol, byddai’r gwaith ailgyflwyno wedi dod i ben ers amser maith.

+ Mae lladd afancod yn anghyfreithlon ar hyn o bryd. A fyddai hyn yn peri problem?

Er yn anghyfreithlon dan y trefniadau deddfwriaethol presennol, pur anaml fyddai angen rheolaeth angheuol beth bynnag, oherwydd cost-effeithiolrwydd cymharol y dulliau rheoli eraill.   Mae twf y boblogaeth o afancod yn araf iawn ers 10 mlynedd ers eu hailgyflwyno, ac felly byddai eu symud i safle arall yn opsiwn ymarferol.

Yn ystod y 15 – 20 mlynedd cyn i boblogaethau o afancod fod angen eu lladd wrth ddethol yn ofalus, byddai deddfwriaeth warchodol yr UE dan Adran 12 Atodiad 4 o’r Cyfarwyddyd Cynefinoedd wedi’i dileu i ganiatáu lladd yn lleol neu hyd yn oed dymhorau hela, sydd eisoes yn bodoli yn Sweden a sawl gwlad yng Nghanolbarth Ewrop.

Ar hyn o bryd, mae’r Cyfarwyddyd yn cael ei adolygu, a gall arwain at dynnu’r afanc yn llwyr o’r Atodiad.

+ Sut fyddai’r ailgyflwyno gwreiddiol yn cael ei reoli?

Byddai lleoliad gyda chynefin da a digon o fwyd yn cael ei ddewis.

Byddai’r anifeiliaid a ailgyflwynid yn cael tag electronig ac yn cael eu monitro gan dîm penodol.

Byddai unrhyw effeithiau negyddol a allai ddod yn sgil afancod yn cael eu rheoli gan dîm penodedig.

Y Rhywogaethau

+ Pa gofnodion a geir o’r afanc yng Nghymru?

Wrth ysgrifennu yn y 12 fed   ganrif, dywedodd y clerwr o Gymro, Sylvester Gerald de Barri (‘Giraldus Cambrensis’), bod afancod ar afon Teifi yng Nghilgerran yn Sir Aberteifi.

Roedd Gerald yn cofnodi ei siwrnai gyda’r Archesgob Baldwin, a oedd ar bererindod bregethu yng Nghymru yn 1188, er mwyn ennill cefnogaeth i’r Croesgadau.

Mae’n ymddangos mai hwn yw’r cofnod hanesyddol naturiol olaf o afancod byw yng Nghymru a Lloegr, ond ceir traddodiad llafar am afanc yng Ngogledd Cymru, yn Nant Francon, sy’n cyfeirio’n ôl i tua 1650-1700 [Cyfeiriad Yr Athro Bryony Coles, Prifysgol Exeter].

Cyn hynny, mae Hywel Dda, Brenin Cymru (y rhan fwyaf ohoni!) yn y 10fed ganrif, yn manylu yn ei Gyfraith bod crwyn afancod, ynghyd â’r carlwm a bele’r coed, yn freintiau brenhinol.

Wrth werthuso iawndal yn y Gyfraith, mae croen afanc yn 60 ceiniog.   Roedd hyn yn werth ‘ceffyl gorau’ – £5,000 neu fwy efallai ym mhres heddiw.   Mae hyn yn arwydd pendant bod yr afanc y brin iawn ar y pryd a thrwy hynny’n werthfawr yng Nghymru yn 950 AD. [Cyfeiriad Lynn Hughes]

Rheolaeth

+ Beth sy’n digwydd os bydd afanc yn achosi problem ar fy nhir?

Nid yw strwythurau afancod, yn cynnwys eu hargaeau a’u gwâl, wedi’u gwarchod dan gyfraith yr UE na’r DG, felly gellir eu rheoli neu eu symud os gwelir eu bod yn achosir problem.

Yn yr un modd, gellir dileu effaith yr afanc gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau syml a rhad, yn cynnwys ffensys eithrio, rheoli argaeau, trapio byw a symud. Ar hyn o bryd, mae Gwasanaeth Cefnogi ar gyfer Rheoli Afancod yn cael ei asesu. Gallai hwn ddarparu rhwydwaith o gyngor ynghylch yr afanc. Hefyd, efallai y bydd modd trefnu gwasanaeth ymateb cyflym yn lleol ar gyfer symud ac adleoli afancod.

Dylid nodi hefyd mai dim ond pan fo raid iddynt fyw mewn cynefinoedd heb fod cystal ag yr hoffent y mae afancod yn creu argaeau, gydag afonydd a nentydd bychain.

+ Pwy fydd yn gyfrifol am afancod yn yr hirdymor?

Llywodraeth Cymru drwy gyfrwng Cyngor Cefn Gwlad Cymru fyddai’n gyfrifol yn y pen draw, yn yr hirdymor.

Gall sefydliadau anstatudol addas fod yn gyfrifol am y gwaith rheoli o ddydd i ddydd, fel yr Ymddiriedolaethau Natur, mewn partneriaeth ag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru mae’n bur debyg.

+ A yw ailgyflwyno’r afanc yn agor drysau i rywogaethau eraill, h.y., a fydd camau’n cael eu cymryd i ailgyflwyno bleiddiaid, eirth a’r lyncs?

Dim ond ymwneud ag asesu’r posibilrwydd o ailgyflwyno’r afanc yng Nghymru mae’r Prosiect Afancod Cymru hon.   Nid oes cyswllt gydag unrhyw rywogaethau eraill nad ydynt yn byw ar Ynysoedd Prydain ar hyn o bryd.

Yn wahanol i lawer o rywogaethau eraill, diflannodd yr afanc oherwydd iddo gael ei or-hela am ei gig, ei ffwr a sgil-gynhyrchion meddygol, yn hytrach nag oherwydd iddo golli ei gynefin neu am ei fod yn cael ei ystyried yn rhywogaeth broblemus.

Mae hyn yn golygu y gellid ei ailgyflwyno’n gymharol rwydd gan fod y cynefin addas yn dal yn bresennol.   Hefyd, mae afancod wedi byw ochr yn ochr â gweithgareddau ffermio, pysgota a gweithgareddau dynol eraill a chan nad ydynt yn symud llawer, ni fyddai eu presenoldeb yn tarfu fawr ddim ar neb.   Nid ydynt yn beryglus mewn unrhyw ffordd i dda byw na phobl.

Dylid nodi nad yw ailgyflwyno rhywogaethau eraill a arferai fyw ym Mhrydain, fel y Barcud Coch a Gwalch y Pysgod, wedi arwain at broblemau.   Yn wir, maent wedi creu refeniw sylweddol gan dwristiaid sy’n ymddiddori mewn natur.   Er enghraifft, mae gwylio eryrod yn creu llawer mwy o incwm na ffermio ar Ynys Mull yn awr.

Effeithiau

+ Sut fyddai cost effaith yr afancod yn cymharu ag effaith bywyd gwyllt arall?

Mae difrod gan geirw i amaethyddiaeth yn unig yn Lloegr wedi’i amcangyfrif fel £4.3 miliwn neu £33 (€47) am bob km2 y flwyddyn (Wilson 2003). Mae difrod cwningod yn costio £44 (€63) / km2 y flwyddyn i Brydain (Rees 1985), gan ddibynnu ar faint o mycsomatosis a geir.

I’r gwrthwyneb, daeth Llywodraeth Sweden i’r casgliad nad yw’r 100,000 o afancod yn y wlad yn cael effaith economaidd ar raddfa genedlaethol.

Nid yw’r Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Perchnogion Coedwigoedd yn ystyried bod y difrod i goed yn ddigonol i yswirio yn ei erbyn.   Yn yr un modd, nid yw awdurdodau pysgodfeydd, hefyd yn Norwy, lle ceir diwydiant pysgota eogiaid pwysig, yn credu bod angen cyllido gwaith ymchwil, o ystyried cyn lleied o effaith y mae afancod yn ei gael.

+ A oes modd asesu effeithiau byrdymor, tymor canolig a hirdymor yr afanc ar rywogaethau, ecosystemau a thirlun?

Oes. Gwnaed llawer o ymchwil i boblogaethau o afancod aeddfed o’r ddau rywogaeth (Castor fiber and Castor canedensis), sy’n rhoi gwybodaeth i ni am effaith afancod ar fywyd gwyllt arall a’r tirlun glan afon.

Mae llawer o’r gwaith hwn wedi’i adolygu mewn papur gwyddonol: Rosell ac eraill(2005) Ecological impact of beavers Castor fiber and Castor canadensis and their ability to modify ecosystems . Mammal Review 35:248-276.

+ A fydd presenoldeb afanc ar afon yn effeithio ar Gynlluniau Rheoli Dalgylch a Rheolaeth ar Risg o Lifogydd?

Ni fyddai’r afanc yn cael ei ailgyflwyno i unrhyw ddalgylch o afon os credid y byddai’n cael unrhyw effaith niweidiol sylweddol ar gyflwyno Cynlluniau Rheoli Dalgylch a strategaethau Rheoli’r Risg o Lifogydd.

Ni cheir tystiolaeth gref yn dangos bod afancod yn achosi difrod sylweddol mewn perthynas â llifogydd.   Yn wir, mewn sawl achos, gall effeithiau’r afanc ar ddalgylch afon leihau’r llifogydd drwy arafu’r d?r a lleihau’r llifwaddod a gludir.   Os ceir llifogydd lleol (e.e. drwy gwlferti wedi’u blocio), gellir atal neu reoli hyn yn rhwydd.

Gall strwythurau afancod leihau llygredd, drwy gynyddu ocsigeniad a dal deunyddiau coloidaidd yn ôl [ Rosell ac eraill (2005) Ecological impact of beavers and their ability to modify ecosystems . Mammal Review 35:248-276.]

+ A fydd yr afanc yn cael effaith niweidiol ar nodweddion safleoedd dynodedig fel SoDdGA’oedd ac ACA’oedd?

Wrth ailgyflwyno byddai’n rhaid wrth gymeradwyaeth Lywodraeth Cymru a Cyngor Cefn Gwlad Cymru, sy’n gyfrifol am ardaloedd dynodedig fel SoDdGA’oedd ac ACA’oedd.

Ni ailgyflwynid afancod pe bai hynny’n creu difrod sylweddol i integriti ardaloedd dan warchodaeth statudol, a gellir delio ag unrhyw afanc sy’n dod i fyw mewn ardaloedd o’r fath yn annisgwyl drwy ei symud, fel a ddisgrifir uchod.

Yn gyffredinol, mae ailgyflwyno’r afanc yn Ewrop wedi arwain at fanteision sylweddol drwy gyfoethogi coetiroedd ar lannau afonydd a chynefinoedd o wlybdir, gan amrywio’r llochesi ecolegol a chynyddu nifer yr adar, mamaliaid a thrychfilod sy’n bresennol.

+ A allai afancod gael effaith ar gytundeb rheoli amaeth-amgylcheddol cyfredol y mae ffermwyr neu berchnogion tir wedi’i lunio?

Byddai’n rhaid dod i gytundeb â Lywodraeth Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cumru a chyrff rheoli eraill i sicrhau nad yw cynlluniau amaeth-amgylcheddol yn dioddef o ganlyniad i ailgyflwyno’r afanc.

Dylai hyn, er enghraifft, gynnwys gwarchod taliadau ar gyfer plannu ar lan afon os ceir effaith ar hyn wedyn gan afanc.

Bydd raid i Lywodraeth Cynulliad Cymru a Cyngor Cefn Gwlad Cumr gymeradwyo unrhyw gynlluniau ailgyflwyno cyn eu gweithredu.

Cyllid

+ Efallai na fydd y tir lle bydd yr afanc yn cael effaith yn elwa o angenrheidrwydd o ailgyflwyno drwy gyfrwng twristiaeth refeniw etc. Sut ellid delio â hyn?

Byddai manteision cyffredinol ailgyflwyno’n fwy na chost debygol yr effaith, fodd bynnag, efallai y ceir achosion lleol nad yw’r effeithiau’n cael eu cyfateb gan fanteision.

Gall manteision economaidd a chymdeithasol yr afanc, yn cynnwys twristiaeth natur a gwasanaethau amgylcheddol fel a amlinellir yn Adran 5, ddarparu cyfiawnhawd ariannol ar gyfer creu mecanwaith iawndal neu wobrwyo lle mae buddsoddiad ychwanegol gan ddeiliad tir yn cael ei gysylltu’n uniongyrchol ag atal effaith negyddol.

Ar hyn o bryd, mae Gwasanaeth Cefnogi ar gyfer Rheoli Afancod yn cael ei asesu. Gallai hwn ddarparu rhwydwaith o gyngor ynghylch yr afanc. Hefyd, efallai y bydd modd trefnu gwasanaeth ymateb cyflym yn lleol ar gyfer symud ac adleoli afancod.