Donate

Canllawiau IUCN ar gyfer ailgyflwyno

Yn 1995, cymeradwyodd yr International Union for the Conservation of Nature (IUCN) ganllawiau ar gyfer ailgyflwyno rhywogaethau. Mae asiantaethau cadwraeth Prydain wedi cymeradwyo’r rhain. Ar sail y canllawiau yma, mae’r Cydbwyllgor Gwarchod Natur (JNCC) wedi datblygu proses ar gyfer gwerthuso a gweithredu’r arfer o drawsleoli rhywogaethau, er budd cadwraeth. Dylai unrhyw raglen ailgyflwyno yng Nghymru ddilyn y canllawiau yma. Ymdrinnir â’r meini prawf isod:

MEINI PRAWF AR GYFER GWERTHUSO’R ARFER O DRAWSLEOLI RHYWOGAETHAU:

i. Dylid cael tystiolaeth bendant fod y rhywogaeth yn absennol o’r safle(oedd) rhyddhau arfaethedig cyn y trawsleoliad cyntaf;

Nid yw afancod i’w cael bellach yn y gwyllt yng Nghymru, ar ôl diflannu yn ystod y Canol Oesoedd. Er mis Mai 2009, mae rhaglen ailgyflwyno arbrofol ar waith yn Knapdale, Argyll, Yr Alban. Yn ychwanegol at hyn, yn ddiweddar daethpwyd o hyd i afancod yn byw’n wyllt yn rhai o afonydd Yr Alban – ar ôl dianc, mae’n debyg, o gasgliadau preifat.

ii. Dylai’r safle(oedd) rhyddhau arfaethedig fod o fewn dosbarthiad hanesyddol y rhywogaeth (ar ôl 1600, er mwyn ystyried y cofnod cyntaf o ddosbarthiad y rhywogaeth ym Mhrydain);

Ni wyddys pryd yn union y diflannodd afancod o Gymru a Phrydain, ond mae’n debyg eu bod wedi diflannu o Gymru cyn y bymthegfed ganrif. Derbynnir yn gyffredinol fod afancod i’w cael trwy Brydain, cyn i hela gormodol arwain at eu difodiant.

iii. Dylid deall y rhesymau sydd wrth wraidd dirywiad a diflaniad y rhywogaethau yr ystyrir eu trawsleoli, ynghyd â pham y lleihaodd eu niferoedd neu y diflannodd y rhywogaethau oddi ar y safle(oedd) lle ystyrir ailsefydlu’r rhywogaethau;

Diflannodd afancod o Brydain (a Chymru) yn bennaf gan fod pobl wedi hela gormod arnynt. Efallai fod colli cynefin wedi bod yn ffactor mewn ambell achos. Ond mae’r arolygon a gafodd eu cynnal yn 2008 yn dangos, y tu hwnt i amheuaeth, fod digon o gynefinoedd addas i’w cael yng Nghymru i gynnal poblogaeth gynaliadwy o afancod.

iv. Dylid ystyried canlyniadau unrhyw achosion eraill o drawsleoli’r rhywogaeth a ddigwyddodd ym Mhrydain Fawr neu yn rhywle arall;

Mae afancod wedi’u trawsleoli yn nifer o wledydd Ewrop. Yn wir, mae 200 enghraifft o drawsleoli ac ailgyflwyno wedi digwydd er 1922. Erbyn hyn, mae afancod yn byw’n wyllt ym mhob gwlad o fewn eu hen ddosbarthiad Ewropeaidd, ac eithrio Portiwgal, Yr Eidal a gwledydd yn ne’r Balcanau. Yn Yr Alban, mae treial yn ymwneud ag ailgyflwyno afancod yn cael ei roi ar waith (er Mai 2009). Bydd y profiad a gafwyd yn sgil yr holl brosiectau hyn yn cyfrannu at unrhyw achos o ailgyflwyno yng Nghymru.

v. Dylid ymgynghori ag unigolion a sefydliadau eraill a allai fod â diddordeb yn y prosiect trawsleoli arfaethedig, neu rai y gallai’r prosiect effeithio arnynt;

Mae’r gwaith o ymgynghori â budd-ddeiliaid allweddol wedi bod ar waith er 2005. Mae barn, pryderon a syniadau’r rhain wedi’u casglu ynghyd er mwyn gallu tynnu sylw at gyfleoedd neu broblemau posibl. Wedyn, gellir ceisio dod o hyd i atebion ymarferol. Y bwriad yw cynnal ymgynghoriad pellach, yn enwedig yn lleol. Trwy wneud hyn, bydd modd i’r sefydliadau a’r unigolion y bydd y gwaith o ailgyflwyno afancod yn effeithio arnynt gyfrannu at y broses asesu.

vi. Dylid asesu’r manteision a ddaw i ran y rhywogaeth dan sylw yn sgil y trawsleoli (yn y tymor byr a’r hirdymor);

Byddai ailgyflwyno afancod i Brydain yn cyfrannu at nod sylfaenol Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC (Y Gyfarwyddeb Cynefinoedd) i ddychwelyd rhywogaethau brodorol i’w hen ddosbarthiad. Byddai ailgyflwyno afancod i Gymru yn cyfrannu at statws cadwraethol ffafriol y rhywogaeth yn yr Undeb Ewropeaidd trwy ymestyn ei dosbarthiad yn sylweddol.

vii. Dylid ystyried unrhyw effeithiau niweidiol posibl a allai ddod i ran y boblogaeth a ‘roddodd’ y rhywogaeth;

Ni fyddai cymryd anifeiliaid o boblogaeth er mwyn eu hailgyflwyno mewn man arall yn cael effaith niweidiol ar y boblogaeth wreiddiol. Ym Mafaria, caiff hyd at 300 o afancod eu cymryd bob blwyddyn – efallai y gellid defnyddio rhai o’r rhain yng Nghymru wrth ailgyflwyno’r rhywogaeth i’r wlad.

viii. Dylid asesu unrhyw niwed posibl i gynefinoedd neu rywogaethau eraill ar y safleoedd ailgyflwyno arfaethedig;

Mae astudiaethau’n dangos bod yr hyn a wna afancod yn cynyddu bioamrywiaeth afonydd a gwlyptiroedd yn sylweddol, a’u bod o fudd i gynefinoedd a rhywogaethau.

ix. Dylid sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag amcanion cadwraethol eraill yr asiantaethau statudol dan sylw;

Fel rhywogaeth allweddol, gallai afancod fod yn ffordd bwysig o reoli afonydd a gwlyptiroedd yng Nghymru, gan fod o fudd i amrywiaeth eang o gynefinoedd a rhywogaethau a chan gynorthwyo i gyflawni rhai o amcanion craidd Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Hefyd, byddai ailgyflwyno afancod yn cyd-fynd ag un o amcanion y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, sef dychwelyd rhywogaethau brodorol i’w dosbarthiad blaenorol. Ymhellach, gallai afancod, fel ffordd gynaliadwy o reoli safleoedd, gynorthwyo i gyflawni rhai o amcanion craidd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru, yn ogystal â chyd-fynd ag amcanion Fframwaith yr Amgylchedd Naturiol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

x. Dylid nodi llwyddiant tebygol y trawsleoli arfaethedig;

Ar y cyfan, mae’r gwaith o ailgyflwyno/trawsleoli afancod yn Ewrop wedi bod yn llwyddiant mawr. Hyd yn hyn, mae mwy na 200 o enghreifftiau o drawsleoli wedi digwydd trwy Ewrop er 1922. Mae’r mwyafrif llethol wedi bod yn llwyddiant mawr a dysgwyd gwersi ar sail yr ychydig fethiannau a gafwyd. R?an, ceir cyfoeth o wybodaeth y gellir ei ddefnyddio, ac mae gennym ddealltwriaeth dda o arferion gorau a gweithdrefnau cymeradwy. Mae’r siawns o ailgyflwyno afancod yn llwyddiannus i Gymru yn uchel iawn.

xi. Dylid cadarnhau argaeledd arian wedi’i glustnodi, fel y gellir cwblhau’r trawsleoli arfaethedig a chynnal gwaith monitro;

Mae ymchwiliadau cychwynnol i ffynonellau arian posibl wedi cael eu cynnal. Wrth i’r gwaith asesu fynd yn ei flaen, ac wrth ddewis yr union safleoedd, bydd angen datblygu cynlluniau mwy manwl.

xii. Dylid defnyddio poblogaethau priodol ar gyfer cymryd afancod ohonynt, gan ystyried ecoleg, ymddygiad a chyfansoddiad genetig y rhywogaeth.

Mae astudiaethau a gynhaliwyd yn ddiweddar wedi awgrymu bod dwy gangen o afancod Ewrasiaidd i’w cael: Castor fiber fiber yng ngorllewin Ewrop a thu hwnt aCastor fiber vistulanis yn Nwyrain Ewrop a thu hwnt (gweler Halley, D.J. (2010)Sourcing Eurasian beaver Castor fiber stock for reintroductions in Great Britain and Western Europe Mammal Review 2010, Mammal Society ).   Wrth ailgyflwyno afancod i Gymru, dylid defnyddio Castor fiber fiber pan fo modd.